Polisi Dosbarthu a Dychwelyd – Siop Pwlldefaid
Dosbarthu
Amseroedd Dosbarthu Archebion Ar-lein
-
Rydym yn anelu at anfon pob eitem sydd mewn stoc o fewn 3–5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich archeb.
-
Rydym yn defnyddio ‘olrhain 48’ y Post Brenhinol (Royal Mail Tracked 48)
-
Plis gadewch 14 diwrnod i’r archeb eich cyrraedd.
-
Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau pan fydd eich archeb wedi’i hanfon.
-
Bydd costau dosbarthu’n cael eu cyfrifo wrth dalu.
-
Efallai y bydd angen trefniadau arbennig ar gyfer eitemau mawr neu fregus –byddwn yn cadarnhau hyn gyda chi cyn cludo.
-
Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau dosbarthu ar amser, ond nid ydym yn gallu derbyn cyfrifoldeb am oedi gan y gwasanaeth post neu gludwyr
Casglu o’r Siop
-
Gallwch ddewis casglu’ch archeb o’r siop yn rhad ac am ddim.
Dychwelyd a Chyfnewid
Newid Eich Meddwl?
-
Gellir dychwelyd eitemau a brynwyd yn y siop neu ar-lein o fewn 14 diwrnod am ad-daliad neu gyfnewid, cyn belled eu bod heb eu defnyddio, yn eu deunydd pecynnu gwreiddiol, a gyda phrawf prynu.
-
Ni ellir dychwelyd nac ad-dalu eitemau sydd wedi eu personoli neu wedi’u gwneud yn arbennig, oni bai eu bod yn ddiffygiol.
-
Efallai na fydd rhai eitemau’n gymwys i’w dychwelyd, megis nwyddau darfodus, anrhegion personol neu eitemau sydd ar sêl. Bydd hyn yn cael ei nodi’n glir wrth brynu.
Eitemau Diffygiol neu Wedi’u Difrodi
-
Os yw’ch eitem yn cyrraedd yn ddiffygiol, wedi’i ddifrodi neu ddim fel y disgrifiwyd, cysylltwch â ni o fewn 14 diwrnod i’w derbyn.
-
Byddwn yn cynnig amnewid, cyfnewid neu ad-daliad llawn, gan gynnwys costau dosbarthu safonol lle bo’n berthnasol.
Sut i Ddychwelyd Eitem
-
Cysylltwch â ni drwy e-bost i drefnu dychwelyd.
-
Os yn dychwelyd drwy’r post, pecynnwch yr eitemau’n ddiogel.
-
Chi sy’n gyfrifol am gostau cludo’n ôl, oni bai bod yr eitem yn ddiffygiol neu’n anghywir.
Ad-daliadau
-
Caiff ad-daliadau eu prosesu o fewn 14 diwrnod i dderbyn yr eitem sydd wedi’i ddychwelyd.
-
Bydd ad-daliadau’n cael eu rhoi’n ôl i’r dull talu gwreiddiol.
Cysylltu â Ni
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddosbarthu neu ddychwelyd:
E-bost: pwlldefaid1@gmail.com
Ffôn: 01758 701812
.png)