top of page

CROESO
Croeso i'n gwefan. Dyma chydig o hanes Oriel Pwlldefaid i chi.
Agorodd Bethan a finna (Eirian) y siop ym Mis Tachwedd 1998 fel siop i werthu y cynnyrch 'oeddan ni yn ei wneud a hefyd gwaith crefftwyr lleol eraill. Crochenwaith oedd gan Bethan i ddechra' a finna'n gneud dillad plant 'Indicymru'. Erbyn hyn, mae Bethan yn gneud ambell beth yn cynwys gemwaith clai, cardia', ac eitemau bach i'w personoli. Erbyn hyn 'da ni'n gwerthu cynnyrch dros 30 o grefftwyr.
Ers blynyddoedd 'da ni wedi bod yn mynd i'r 'steddfoda Cenedlaethol a'r Urdd i werthu ac er fy mod i wedi ymddeol o fynd erbyn hyn, mae Bethan yn dal i fynd :)
Cysylltu/ Contact
bottom of page